Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol/
Prif Weithredwr GIG Cymru
Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Director General Health and Social Services/
NHS Wales Chief Executive
Health and Social Services Group
Nick Ramsay AC
Cadeirydd
Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus
Ein Cyf: AG / MR
06 Mehefin 2018
Annwyl Mr Ramsay
Amseroedd Aros y GIG ar gyfer Gofal Dewisol yng Nghymru a Gwasanaethau Orthopedig
Yn dilyn y diweddariad a ddarparwyd ym mis Mawrth 2018, rwyf nawr yn darparu diweddariad arall fel y gofynnwyd.
O ran amseroedd aros, fel y gwyddoch, buddsoddodd Llywodraeth Cymru £50 miliwn arall yn 2017-18 i helpu byrddau iechyd i adeiladu ar y cynnydd a wnaed dros y ddwy flynedd ddiwethaf a sefydlogi er mwyn lleihau nifer y cleifion sy'n aros dros 36 wythnos, y rhai sy'n aros dros wyth wythnos am brofion diagnostig a'r rhai sy'n aros dros 14 wythnos am wasanaethau therapi erbyn diwedd mis Mawrth 2018.
Er gwaethaf y pwysau cynyddol yn sgil gofal heb ei drefnu a welwyd rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2018, diolch i ymroddiad a gwaith caled staff yn GIG Cymru a'r buddsoddiad ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, roeddem yn gallu dangos gwelliant blynyddol arall yn nifer y bobl sy'n aros dros 36 wythnos, gyda'r niferoedd bellach yn 12,119, sef gwelliant o 2% o gymharu â'r sefyllfa ym mis Mawrth 2017. Dyma'r sefyllfa orau ers mis Mawrth 2014. Mae chwech o blith y saith bwrdd iechyd mewn gwell sefyllfa neu'r un sefyllfa o ran y niferoedd sy'n aros 36 wythnos o'i gymharu â mis Mawrth 2017, gyda'r unig ddirywiad ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr. Fodd bynnag, hyd yn oed yno, mae'r niferoedd sy'n aros dros 36 wythnos wedi lleihau 39% o gymharu â'u proffil gwreiddiol yn eu Cynllun Tymor Canolig Integredig ac mae 45% yn is na'r uchafbwynt ym mis Rhagfyr 2017. Rwy'n cydnabod bod ffigur Cymru-gyfan yn dal yn rhy uchel ac rwy'n disgwyl gweld gwelliannau pellach yn ystod 2018-19 fel y nodir yng Nghynlluniau Tymor Canolig Integredig y byrddau iechyd.
O ran diagnosteg, roedd y ffigurau ar ddiwedd mis Mawrth 2018 69% yn is nag ym mis
Mawrth 2017 a dyma'r ffigurau isaf ers mis Medi 2009. Unwaith eto, gwelwyd gwelliannau
Ffôn ●Tel 0300 0251182
Parc Cathays ●Cathays Park Andrew.Goodall@gov.wales
Caerdydd ●Cardiff
CF10 3NQ Gwefan ● website: www.wales.gov.uk
yn y mwyafrif o fyrddau iechyd o'u cymharu â mis Mawrth 2017 ac rwy'n disgwyl gweld gwelliannau pellach yn ystod 2018-19. O ran gwasanaethau therapi, roedd y ffigurau ym mis Mawrth 2018 90% yn is na'r sefyllfa ym mis Mawrth 2017 a dyma'r ffigur isaf ers mis Mehefin 2011. Dywedodd pedwar o'r byrddau iechyd yng Nghymru nad oedd neb yn aros dros 14 wythnos ar ddiwedd mis Mawrth 2018.
O ran agweddau eraill ar yr adroddiad gwreiddiol ar amserau aros a oedd yn dal heb eu datrys; mae'r rheolau a'r diffiniadau ynglŷn â sut i reoli claf ar lwybr atgyfeirio at driniaeth wedi'u cyhoeddi dan Gylchlythyr Iechyd Cymru (WHC (2018) 018) ynghyd â'r rheolau ar gyfer rheoli cleifion ar lwybr cardiaidd
(https://gov.wales/docs/dhss/publications/whc2018-018cy.pdf). Mae'r rhaglen 1000 o Fywydau wedi bod yn gweithio ar ddiweddaru Canllawiau i Arfer Da - cleifion allanol a chyhoeddwyd hyn ar 1 Mai 2018 (http://www.1000ofywydauamwy.wales.nhs.uk/canllaw-iarfer-da-cleifion-allanol).
O ran orthopedeg, sicrhawyd yr arian i barhau â'r rhaglen PROMs, PREMs ac
Effeithlonrwydd a bydd yr arian yn cefnogi cyflwyno a gweithredu PROMs orthopedig. Mae'r ateb i gasglu PROMS orthopedig yng nghartref claf yn weithredol mewn rhai byrddau iechyd. Bwriedir rhyddhau fersiynau o feddalwedd i wella ymarferoldeb i ganiatáu i wasanaethau weinyddu'r llwybr PROM ar ôl brysbennu cychwynnol, yn ogystal â gwelliannau eraill, yn ddiweddarach eleni.
Mae'r grŵp gwybodeg ar gyfer gofal wedi'i gynllunio wedi cyflwyno cynnig i ddatblygu safon gwybodaeth i Fwrdd Safonau Gwybodaeth Cymru i'w gymeradwyo'n ffurfiol ym mis Mai 2018. Bydd datblygu'r safon hon yn sicrhau dull cyson o gasglu data ar gyfer cynllunio'r galw yng Nghymru; nid yw hyn yn bodoli ar hyn o bryd. Yn seiliedig ar y profiad a'r gwersi a ddysgwyd yn yr Alban drwy eu rhaglen galw, capasiti, gweithgaredd a chiwio (DACQ), mae'r rhaglen wedi gallu gweithio gyda gwasanaethau a chydweithwyr gwybodaeth i wneud gwelliannau go iawn a chynaliadwy, sy'n sail i'r cynlluniau gweithredu dilynol.
Mae byrddau iechyd wedi dechrau adrodd ar fetrigau data y Ganolfan Asesu a Thriniaeth Gyhyrysgerbydol Clinigol (CMAT). O ran y dyfodol, adroddir ar y rhain bob chwarter a byddant yn rhan o agenda Bwrdd Orthopedig Cymru. Mae trafodaethau ymhlith clinigwyr ac arweinwyr CMAT yn arwain at newidiadau mewn arferion gwaith, gan arwain at well ansawdd gofal cleifion a mynediad at wasanaethau drwy weithio mewn modd mwy cydweithredol. Bydd grŵp CMAT Cymru Gyfan yn adolygu'r meini prawf data presennol ar ddiwedd chwarter dau i gadarnhau bod y metrigau cywir yn cael eu casglu a bod y targedau'n synhwyrol, cyn bwrw ymlaen i gynnig datblygu safon gwybodaeth i ffurfioli'r trefniadau adrodd. Mae hyn yn rhan annatod o ddeall ble i wella'r defnydd o adnoddau, a sut y bydd ymgorffori'r trefniadau casglu mewn arferion gweithio arferol yn sicrhau bod y CMAT a'r gwasanaeth atgyfeirio yn cael eu monitro'n effeithiol.
Rwy'n hyderu bod y llythyr hwn yn rhoi'r sicrwydd sydd ei angen arnoch y bydd cynnydd yn parhau i gael ei wneud.
Yn gywir
Dr Andrew Goodall